Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dydd Mawrth 26 Tachwedd a dydd Mercher 27 Tachwedd 2013
Dydd Mawrth 3 Rhagfyr a dydd Mercher 4 Rhagfyr 2013
Dydd Mawrth 10 Rhagfyr a dydd Mercher 11 Rhagfyr 2013
***********************************************************************
Dydd Mawrth 26 Tachwedd 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyllid: Ymateb Llawn Llywodraeth y DU i Adroddiad Comisiwn Silk ar Ddiwygio Ariannol (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Adolygiad Hill: Darparu Gwasanaethau Addysg yng Nghymru yn y Dyfodol (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Cynllun gweithredu strategol morol a physgodfeydd (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Y cynnydd o ran cyflwyno Strategaeth Yr Hawl i fod yn Ddiogel (30 munud)
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:
· Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (15 munud)
· Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (15 munud)
· Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau Eraill) 2013 (15 munud)
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân:
· Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Gofal (15 munud)
· Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol mewn perthynas â'r Bil Gofal (15 munud)
· Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddau a Phlismona mewn perthynas â'r eithriad ASBO (15 munud)
· Dadl: Y manteision i Gymru i'r DU barhau i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd (60 munud)
Dydd Mercher 27 Tachwedd 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (15 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (120 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl fer - Gwyn Price (Islwyn) (30 munud)
· Dadl fer - Julie James (Gorllewin Abertawe) (30 munud) - aildrefnwyd o 25 Medi
Dydd Mawrth 3 Rhagfyr 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Cwestiynau i'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Ymatebion i'r Papur Gwyn ar "Rentu Cartrefi" (30 munud)
· Dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Addysg (Cymru) (60 munud)
· Cynnig i gytuno ar benderfyniad ariannol mewn perthynas â Bil Addysg (Cymru) (5 munud)
· Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) (60 munud)
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil. Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47.
· Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Addysg Bellach ac Uwch (Llywodraethu a Gwybodaeth) (Cymru) (5 munud)
· Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar Fil Cyllid y GIG (Cymru) (60 munud)
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil. Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47.
· Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo Bil Cyllid y GIG (Cymru) (5 munud)
Dydd Mercher 4 Rhagfyr 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
· Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl Fer - Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 10 Rhagfyr 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: PISA 2012 (30 munud)
· Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Dwr (15 munud)
· Dadl ar y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2014-15 (60 munud)
· Dadl ar yr Adroddiad Blynyddol ar Ddatblygu Cynaliadwy (60 munud)
· Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) (60 munud)
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil. Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47.
· Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo'r Bil Rheoli Ceffylau (Cymru) (5 munud)
Dydd Mercher 11 Rhagfyr 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
· Dadl Fer - Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) (30 munud)